Y lori sbwriel aeth allan o reolaeth yn Glasgow
Byddai gwaharddiad llwyr ar gerbydau nwyddau trwm ar ffyrdd bach yn anodd oherwydd y gwasanaethau angenrheidiol maen nhw’n ei ddarparu, meddai pennaeth yr AA.
Mae Edmund King wedi awgrymu y byddai gwaharddiad o’r fath yn broblem gan fod cerbydau trwm yn hanfodol i ddosbarthu nwyddau, hyd yn oed mewn ardaloedd bach.
Cafodd tri oedolyn a phlentyn eu lladd ddoe ar ôl i lori wrthdaro yn erbyn cerbydau a cherddwyr ar allt yng Nghaerfaddon, yng Ngwlad yr Haf.
Daw’r ddamwain lai na dau fis ar ôl i lori sbwriel wyro allan o reolaeth yng nghanol dinas Glasgow, gan ladd chwech o bobl.
Hefyd, wythnos diwethaf, fe aeth gyrrwr lori yn sownd yn waliau’r bont fechan 200 mlwydd oed yn Aberdaron gan ei difrodi wrth iddo geisio teithio o Abersoch i Bwllheli.
Dywedodd Edmund King, llywydd yr AA, y dylai cerbydau nwyddau trwm gael eu cyfeirio at y lonydd mwyaf perthnasol.
Awgrymodd hefyd fod damweiniau sy’n cynnwys cerbydau mawr, fel bysiau neu loriau, yn aml yn deillio o unai diffygion gyda’r cerbyd, gwall dynol neu salwch.