Mae merch ifanc ymhlith pedwar o bobl fu farw ar ôl i lori wrthdaro yn erbyn cerbydau a cherddwyr ar allt yng Nghaerfaddon, yng Ngwlad yr Haf.

Bu farw’r ferch, a oedd yn cerdded ar y pryd, a thri oedolyn oedd mewn car, yn y fan a’r lle toc wedi 4yp bnawn ddoe yn Heol Lansdown, yn Upper Weston, Caerfaddon.

Roedd y lori, a oedd yn cludo graean, mewn gwrthdrawiad a cheir a dau gerddwr wrth deithio i lawr yr allt serth.

Cafodd un person eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Southmead ym Mryste mewn cyflwr difrifol .

Cafodd tri pherson arall – dau ddyn a dynes – eu cludo i Ysbyty Brenhinol Unedig Caerfaddon gyda man anafiadau.

Roedd nifer o bobl eraill gyda man anafiadau wedi cael eu hasesu a’u trin mewn safle dros dro mewn ysgol gynradd gerllaw.

Yn ôl llygad dystion, roedd gyrrwr y lori wedi bod yn ceisio osgoi achosi damwain pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Cafodd gyrrwr y lori ei anafu yn y ddamwain ac mae’n parhau yn yr ysbyty.

Roedd yr ardal yn brysur ar y pryd wrth i rieni gasglu eu plant o’r ysgol.

Mae ymchwilwyr wedi bod yn gweithio ar y safle drwy’r nos i geisio darganfod sut y digwyddodd y ddamwain.

Mae’r ysgol gynradd wedi’i chau’r bore wrth i’r heddlu barhau i archwilio’r safle ac mae gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal.