Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu gan yr heddlu fu’n ymateb i ddigwyddiad mewn pentref ger Caergaint yng Nghaint neithiwr.

Cafodd swyddogion arfog eu galw i dŷ yn Hersden, ger Caergaint am 11.20yh nos Sul.

Roedd dynes ifanc yn y tŷ wedi cael ei thrywanu a chafodd dyn 40 oed, oedd yn perthyn i’r ddynes, ei saethu gan blismon.

Dywedodd Heddlu Caint bod y ddynes a’r dyn wedi cael eu cludo i’r ysbyty lle maen nhw mewn cyflwr difrifol.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu mae’r achos wedi cael ei gyfeirio’n wirfoddol at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).