Y Cynghorydd Sion Jones
Mae’r Cynghorydd Sion Jones wedi cael ei ddewis yn swyddogol dros y penwythnos fel ymgeisydd y Blaid Lafur dros etholaeth Arfon yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd swyddfa cangen Arfon Llafur  eisoes wedi cadarnhau mai’r Cynghorydd Sir ar Gyngor Gwynedd dros ward Bethel a Llanddeiniolen oedd yr unig un oedd wedi ceisio am yr enwebiad.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Sion Jones:  “Dw i’n benderfynol i weithio gyda phawb yn Arfon i wella’r ardal, mae gennyf nod i sicrhau bod y sector breifat yn Arfon yn datblygu, ac erbyn 2020, os caf fy ethol, dw i’n dymuno gweld y sector breifat mor gryf â’r sector gyhoeddus.”

Mae’n awyddus i sicrhau fod yr economi leol yn cael ei datblygu.

“Dw am i bobl ifanc aros yma i weithio, dechrau teulu, prynu tai a hybu ein heconomi yn lleol, ac yn bwysicach – i ddatblygu’r iaith Gymraeg.”

‘Cydweithio’

Yn ôl y Cyng Sion Jones:  “Dw i’n dymuno gweithio gyda phawb, dw i eisiau gweld pob cymuned drwy Arfon yn ffynnu. Rwy’n awyddus i weithio gyda phob cynghorydd a grwpiau cymunedol i ddatblygu eu cymunedau.”

Mae’n credu hefyd fod angen newid trywydd gwleidyddol Arfon: “Mae’n bryd i gael newid yn Arfon, ac fe fydda’i yn  rhoi’r opsiwn i bobl Arfon y tro hwn am newid, i osod agenda ac uchelgais newydd a ffres i’r ardal.

“Tydi chwarae gwleidyddiaeth ddim o ddiddordeb i mi, dw i’n dymuno gweithio gyda phawb i adeiladu gwell cymdeithas ac ardal.”