Mae cynllun i werthu bondiau llog uchel i bensiynwyr wedi cael ei ymestyn am dri mis yn dilyn ei lwyddiant yn ystod y mis cyntaf.

Mae mwy na 600,000 o bobol dros 65 oed yng ngwledydd Prydain wedi achub ar y cyfle i fod yn rhan o’r cynllun, ac roedd llawer iawn rhagor yn wynebu trafferthion gyda llinellau ffôn a gwefannau oherwydd y galw uchel.

Mae £10 biliwn wedi cael ei neilltuo ar gyfer y cynllun, ac mae’n cynnig y cyfle i bensiynwyr fenthyg o’r gronfa ganolog yn hytrach na banciau.

Ar raglen Andrew Marr y BBC, dywedodd Canghellor Prydain, George Osborne mai hwn yw’r cynllun cynilo mwyaf llwyddiannus erioed yng ngwledydd Prydain.

“Mae mwy na 600,000 o bensiynwyr wedi elwa ohono fe.

“Yr hyn y gallaf ei gadarnhau heddiw yw ein bod ni am sicrhau ei fod yn aros ar werth am dri mis arall.”

‘Prynu pleidleisiau’

Ond mae cyfarwyddwr cyffredinol y Sefydliad Materion Economaidd, Mark Littlewood wedi beirniadu’r cyhoeddiad.

“Mae benthyg yn fwy helaeth nag sydd ei angen gan Lywodraeth Prydain mewn gwirionedd yn ffordd o sicrhau bod y boblogaeth oedran gwaith yn ariannu pensiynwyr cyfoethog yn uniongyrchol.”

Ychwanegodd y byddai pensiynwyr yn elwa ar draul trethdalwyr yn sgil y cynllun.

“Mae’n hen bryd i wleidyddion roi’r gorau i brynu pleidleisiau wrth ariannu hen bobol a phobol gyfoethog.”

Mae’r Trysorlys wedi cadarnhau bod gwerth £7.5 miliwn o fondiau wedi cael eu gwerthu, ac mae disgwyl i’r cyfanswm ddyblu erbyn diwedd y tri mis.