Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi dweud mai bod yn ariannol gyfartal a’r Alban a rhoi pobol cyn arfau dinistriol yw dwy o flaenoriaethau ei phlaid.
Roedd Leanne Wood yn siarad ar raglen Andrew Marr y BBC y bore ma, ac mi ddywedodd fod yr etholiad cyffredinol yn gyfle i bobol Cymru roi terfyn ar lymder.
Ychwanegodd nad yw ei phlaid yn croesawu arfau Trident yng Nghymru, ac na fyddai’r blaid yn cefnogi unrhyw gynlluniau i’w symud o’r Alban i Gymru.
“Mae £100 biliwn posib a allai gael ei wario ar bobol yn hytrach nag arfau dinistriol a dyna fydd Plaid Cymru’n ei ddadlau yn yr etholiad hwn.”
Wrth drafod datganoli, dywedodd Leanne Wood fod yna gyfle i sicrhau rhagor o bwerau i Gymru, a fyddai’n sicrhau £1.2 biliwn ychwanegol yn y gyllideb flynyddol.
“Mae’n debygol y gallai senedd grog fodoli ym mis Mai ac fe allai Plaid Cymru ddylanwadu ar gydbwysedd grym.
“Gellir rhoi’r cwestiwn o ymreolaeth a chydraddoldeb a’r Alban yn nhermau grym a chyllid i Gymru ar yr agenda.”
Cadarnhaodd y byddai Plaid Cymru’n barod i gydweithio a’r SNP er mwyn rhoi terfyn ar lymder.
“Rydyn ni’n cydweithio mewn meysydd cyffredin lle gallwn ni.
“Dyw e ddim yn gytundeb etholiadol ond mae’n gwneud synnwyr i gydweithio er mwyn rhoi terfyn ar Lywodraeth Geidwadol a llymder…”