Mae’r cyn-Brif Weinidog Tony Blair wedi addo cynorthwyo arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol ar Fai 7.

Ar hyn o bryd, mae’r polau piniwn yn ffafriol i’r Blaid Lafur, er gwaethaf wythnos o gecru ag arweinwyr busnes.

Yn ôl adroddiadau, mae Blair eisoes wedi cyfarfod â Miliband i drafod ei rôl yn ymgyrch y blaid.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae nifer o arweinwyr busnes wedi mynegi eu pryder ynghylch yr hyn allai ddigwydd i’r sector pe bai Miliband yn dod yn Brif Weinidog.

Dywedodd pennaeth Boots, Stefano Pessina y byddai buddugoliaeth i Lafur yn “drychineb” i wledydd Prydain.

Ond tarodd Miliband yn ôl gan honni bod Pessina yn osgoi talu trethu trwy fyw ym Monaco, ac nad oedd aelodau’r Blaid Lafur yn croesawu ei ymyrraeth.

Yn ôl pôl piniwn Opinium i bapur newydd yr Observer, Llafur sydd ar y blaen (34%), a’r Ceidwadwyr ar 32% ar hyn o bryd.

Mae Prif Weinidog gwledydd Prydain, David Cameron wedi cyhuddo’r Blaid Lafur o “gasáu’r byd busnes”.