Jeremy Hunt
Mae Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Jeremy Hunt yn mynnu y dylid cynnal arolwg i farwolaethau y gellid fod wedi’u hosgoi mewn ysbytai.
Wrth alw am ymchwiliad, dywedodd Hunt mai dyma’r sgandal iechyd fwyaf yn y byd.
Bydd nodiadau oddeutu 2,000 o gleifion yn cael eu hadolygu’n flynyddol er mwyn lleihau nifer y bobol sy’n marw’n ddi-angen mewn ysbytai.
Rhybuddiodd Hunt fod hyd at 1,000 o gleifion yn marw’n ddi-angen mewn ysbytai bob mis.
Dywedodd wrth y Sunday Telegraph: “Mater yw hi o newid ymddygiad a’r ffordd y mae pawb yn gweithio o fewn y Gwasanaeth Iechyd.
“Dyma’r sgandal fwyaf ym myd iechyd yn fyd-eang.
“Pam nad yw’r gwasanaeth iechyd wedi mabwysiadu’r math o safonau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol yn niwydiannau awyrennau a niwclear?”
Mae disgwyl i adroddiad gael ei gyhoeddi’r wythnos hon gan Syr Robert Francis ynghylch pryderon a gafodd eu codi gan staff y gwasanaeth iechyd.
Mae adroddiad arall gan sefydliad Dr Foster heddiw yn dangos bod llai o bobol bellach yn marw mewn 11 o ymddiriedolaethau iechyd a gafodd eu rhoi mewn mesurau arbennig.
Yn ôl adran iechyd San Steffan, bydd ysbytai’n cael eu bandio yn ôl nifer y marwolaethau.