Peter Mandelson - un o ffigurau amlycaf Llafur Newydd
Mae dau o ffigurau amlycaf y Blaid Lafur yn nyddiau Tony Blair wedi gwadu iddyn nhw geisio cael gwared ar Ed Miliband fel arweinydd.
Yn ôl y cyn-ysgrifennydd busnes yr Arglwydd Mandelson, “bydd Ed Miliband yn gwneud prif weinidog da iawn”, a dywedodd y bydd arweinwyr busnes yn “llawer tawelach eu meddwl amdano” wrth i’r etholiad nesáu.
Roedd yn ymateb i adroddiadau ei fod ef ac Alistair Campell, pennaeth cyfryngau Tony Blair, wedi ceisio perwadio’r cyn-ysgrifennydd cartref Alan Johnson i ddisodli Ed Miliband.
“Dw i’n cefnogi arweinyddiaeth Ed Miliband, ac mae arna i eisiau ei fod yn brif weinidog y wlad yma,” meddai’r Arglwydd Mandelson.
“Mae’n cael ei bortreadu’n gywir yn fy marn i fel unigolyn gwydn, egwyddorol a phenderfynol iawn.”