Arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un
Mae adroddiadau fod Gogledd Corea wedi tanio taflegryn cruise o un o’i fflyd o longau rhyfel er mwyn profi ei grym milwrol.

Dywed asiantaeth newyddion swyddogol y wlad fod yr arweinydd Kim Jong Un wedi bod yn gwylio’r roced ‘fanwl gywir’ yn cael ei thanio o un o longau ei llynges.

Yn ôl arbenigwyr, bwriad Gogledd Corea yw cynyddu tensiynau a dangos ei grym cyn ymarferion milwrol ar y cyd rhwng De Corea a’r Unol Daleithiau sydd i ddigwydd y mis nesaf. Mae Gogledd Corea’n honni mai ymarferion ar gyfer ei goresgyn yw’r rhain.