Abubakar Shekau, arweinydd Boko Haram, Nigeria Llun: PA
Mae dros 100 o ymladdwyr Boko Haram wedi cael eu lladd gan filwyr yn Niger yng ngorllewin Affrica wrth daro’n ôl yn erbyn ymosodiadau ar ddwy dref gerllaw’r ffin â Nigeria.

Dywed gweinidog amddiffyn Niger, Karidjo Mahamadou, fod 109 o’r gwrthryfelwyr wedi cael eu lladd, tra bod pedwar milwr wedi marw, 17 wedi cael eu hanafu, a dau ar goll wrth ymladd yn nhrefi Bosso a Diffa.

Cafodd byddin Niger gymorth gan Chad wrth geisio gwrthsefyll ymosodiad Boko haram ar y wlad, lle mae degau o filoedd o ffoaduriaid sydd wedi dianc o ymosodiadau’r gwrthryfelwyr yn Nigeria.

Mae Boko Haram wedi bygwth ymosod ar wledydd sy’n cymryd rhan yn y cyrchoedd milwrol yn eu herbyn.