Baghdad
Mae hunan-fomiwr wedi lladd o leiaf 13 o bobl ac anafu 30 yn nwyrain Baghdad, prifddinas Irac.

Yn ôl heddlu’r wlad, roedd y bomiwr wedi targedu stryd yn llawn o siopau.

Digwyddodd yr ymosodiad fel mae’r cyrffyw yn y brifddinas ar fin dod i ben am hanner nos nos yfory.

Er er gwaethaf ymosodiadau parhaus IS yn Irac, mae’r brifddinas wedi bod yn gymharol ddiogel o gymharu â lleoedd eraill yn y wlad.