Warren Gatland (llun: Joe Giddens/PA)
Mae hyfforddwr tîm Cymru, Warren Gatland, wedi cydnabod bod Cymru wedi chwarae’n wael neithiwr mewn gêm gyntaf druenus ym mhencampwriaeth y chwe gwlad.
Ar ôl bod 10 pwynt ar y blaen yn fuan yn yr hanner cyntaf, collodd Cymru o 21-16 ar ôl perfformiad trychinebus yn yr ail hanner.
“Wrth chwarae ar y lefel hon, rhaid ichi sicrhau eich bod yn gwneud y pethau cywir,” meddai Gatland. “Yn anffodus, doedden ni ddim mor gywir ag y gallen ni fod.
“Mae angen imi edrych ar rai o’r cosbau sgarmes a pham y digwyddodd y rhain yn ein herbyn.
“Fe wnaethon ni gychwyn yn wael ar gychwyn yr ail hanner.
“Fe wnaethon roi cic flêr ac fe gadwodd Lloegr y bêl am bedwar munud a sgorio.
“Fe gawson ni gerdyn melyn wedyn, a rhoi ein hunain o dan lawer o bwysau.
“Ro’n i’n meddwl ein bod ni’n rhesymol gyffyrddus ar hanner amser, ond fe wnaeth Lloegr chwarae’n wirioneddol dda yn yr ail hanner.”