Dr Gwyn Jones
Mae Dr Gwyn Jones yn disgwyl gêm agos heno gyda’r ewinedd yn cael eu cnoi i’r byw…
Mae wedi cyrraedd o’r diwedd. Mae’r siarad drosodd, mae’r to’n agored – mae popeth yn dynodi dechreuad Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Rwy’n gwybod bod pawb wedi’i gyffroi wrth feddwl yn ôl i’r diwrnod anhygoel hwnnw ddwy flynedd yn ôl pan drechodd Cymru’r hen elyn.
Rydym yn cofio symudiadau llyfn Cuthbert wrth sgorio a Sam Warbuton yn hyrddio drwy’r cae fel rhinoseros.
Rhowch yr atgofion hynny i’r naill ochr am y tro oherwydd heno byddwch yn gweld llawer o gicio.
O brofiad, rydym yn gwybod nad oes ots gan Gymru symud y bêl i lawr y cae, yn enwedig ciciau tactegol hir a byr lawr ganol y cae gan y mewnwr a’r maswr.
Mae Cymru bob tro yn meddwl mai nhw fydd yn ennill y frwydr hon a dydyn nhw ddim yn un i anobeithio. Nid yw Cymru’n dîm ffôl o gwbl dan arweiniad Warren Gatland.
Lloegr – “anafiadau creulon”
Felly beth am Loegr? Mae Stuart Lancaster wedi treulio’r tymhorau diwethaf yn ceisio ffeindio cyfuniad canol cae fydd yn gallu chwarae rygbi pur. Mae’n rhaid eu bod nhw wedi trio pob canolwr teilwng yn Lloegr. Cafwyd rhai fflachiadau addawol ond nid yw’r rhain wedi eu cynnal. Mae anafiadau wedi bod yn greulon iawn iddo hefyd.
Yn dilyn yr holl arbrofi yna, mae Lancaster yn awr wedi sylweddoli mai dychwelyd at ‘yr un hen Loegr diflas’ yw’r strategaeth orau.
Maen nhw eisiau llond cae o flaenwyr, ynghyd â sgarmesau a leiniau. Maen nhw eisiau rheoli cyflymdra’r gêm a ble mae’n cael ei chwarae.
Yn wir, mae’n eithaf amlwg bod mwy nag un o garfan Lloegr wedi dweud ’nad oedd colli 30-3 yn golled enfawr’ y tro diwethaf.
Wel, yn amlwg, mi oedd hi. Dim ond edrych ar y sgôr sydd rhaid. Ond yr hyn maent yn ceisio perswadio eu hunain ohono yw mai nhw gyfrannodd at y llinell sgôr drwy wneud cynifer o gamgymeriadau.
Yn ôl nhw, camgymeriad mwyaf a wnaethant oedd cael eu hynysu ar ôl chwarae’n rhy galed yn rhy gynnar wrth iddynt redeg y bêl o’u hanner nhw. Ni fyddan nhw’n chwarae unrhyw rygbi yn eu rhan nhw o’r cae heno.
Cic a chwrs?
Felly, ble fyddan nhw’n cicio? Mae George Ford yn arloeswr y gic groes, yn enwedig gyda’r cawr Banahan yng Nghaerfaddon.
Ond mae’r ddau asgellwr Cymreig yn arglwyddiaethu dros eu gwrthwynebwyr cyfatebol, felly mae codi’r bêl arnyn nhw yn wastraff amser.
Maen nhw’n annhebygol o gael llawer o sbarc o Halfbenny gyda bom neu gic hir.
Does dim dwywaith eu bod nhw wedi chwilio am fylchau y tu ôl i’r amddiffyniad. Mae Cymru braidd yn anarferol drwy feddu ar lein amddiffyn o 14 o ddynion sy’n cynnwys y mewnwr. Efallai bod rhywbeth i’w ddatblygu yno, ond nid yw’n gynllun gêm yn hynny beth.
Felly beth arall wnaiff Lloegr? Bydd rhaid iddyn nhw ddod at Gymru yn y sgarmes. Byddan nhw’n ymbil ar Jerome Garces i’w ffafrio fel eu bod nhw’n gallu ennill ciciau cosb.
O’r ciciau cosb, gallan nhw gael leiniau a dechrau gyrru’r hyrddiad.
Y patrwm hwn o giciau cosb-lein-sgarmes yw cyfle gorau Lloegr i guro Cymru.
Yn ogystal, mae Lloegr yn eithaf da yn gwneud hyn ac nid yw’r Cymry’n dda’n iawn am amddiffyn sgarmesau.
Byddwn i wrth fy modd yn gweld Cymru’n amddiffyn yn oddefol drwy gamu’n ôl o’r sgarmes a gorfodi Lloegr i’w chwalu.
Fodd bynnag, nid yw hyn yn fath o amddiffyn macho, ac i hyfforddwyr fel Gatland, McBryde ac Edwards, mae’n anathema. Ond mae’n gweithio, felly beth yw’r ots?
Cymru efo cefnwyr llawer mwy…
Rwyf wedi peintio darlun eithaf negyddol o’r hyn rwy’n ei ddisgwyl gan Loegr, ond y gwir amdani yw na fyddan nhw’n taflu’r bêl o gwmpas mewn ffordd ffwrdd-â-hi.
Bydd Cymru hefyd yn cicio’r lledr oddi arni yn eu hanner nhw. Pe bai Cymru wedi eisiau gwneud unrhyw beth arall, byddan nhw wedi dewis Liam Williams fel cefnwr.
Ond byddai Cymru wrth eu bodd â chyfle i redeg yn erbyn canolwr Lloegr. Ychydig dros 13 stôn yw George Ford, ac mae Joseph ychydig dros 14 stôn.
Yn wir, mae Dan Biggar yn fwy na phawb ond un o gefnwyr Lloegr. Felly, bydd Cymru eisiau Burrell allan o’r ffordd a hyrddio eu rhedwyr yma.
Nid mater o ddewrder neu dechneg taclo yw hwn, ond mater o nerth corfforol. Mae North a Roberts o leiaf bedair stôn yn drymach na Ford a thair stôn yn drymach na gweddill eu cefnwyr. Mae’n rhaid i Gymru fanteisio ar y cyfle yma.
Datganiad o fwriad oedd cyhoeddi tîm Gatland yn gynnar. Roedd e’n ffordd o ddweud ‘Rwy’n adnabod fy nhîm, ac rwy’n gwybod sut fyddwn ni’n chwarae – ydych chi’n gwybod sut mae ein stopio?’
Felly, y cwestiwn yw, a fydd Cymru’n cael digon o gyfle i ddinistrio’r canolwyr?
Ni fydd yn fuddugoliaeth rwydd. Bydd hi’n gêm dynn yn llawn tensiwn.
Credaf fydd Cymru yn dal eu tir ac yn gwneud defnydd da o’u cewri yn y rheng ôl, ond ni fydd hynny’n digwydd tan yn hwyr yn y gêm. Cymru i ennill, ond bydd yna fwlch o 7-9 o bwyntiau, ac ni fydd hi’n bleserus.
Yr ornest yn fyw ar S4C heno gyda Dr Gwyn Jones yn dadansoddi.