Sam Warburton capten Cymru ar y chwith, a Chris Robshaw capten Lloegr
Mae Sam Warburton wedi cyfaddef y bydd gobeithion Cymru o ennill y Chwe Gwlad mwy neu lai ar ben os nad ydyn nhw’n trechu’r hen elyn heno.

Bydd Stadiwm y Mileniwm – a llawer o ganol Caerdydd – yn orlawn wrth i’r crysau cochion herio Lloegr yng ngêm agoriadol y bencampwriaeth.

Y tro diwethaf i Loegr ymweld â Chaerdydd fe gawson nhw grasfa o 30-3, ac fe fydd 11 o’r chwaraewyr ddechreuodd i Gymru’r prynhawn hwnnw yn y tîm eto heno.

Roedd honno’n gêm i benderfynu pwy oedd yn cipio’r bencampwriaeth – ac mae Warburton yn amau y gallai hon fod yr un peth, er mai gêm gyntaf y gystadleuaeth yw hi.

“Mae’n rhaid i ni drin y gêm hon gyda’r un agwedd â dwy flynedd yn ôl. Mae’n rhaid i ni ennill, mae hi mor bwysig â hynny,” meddai capten Cymru.

“Os gollwn ni hon, mae gennym ni dair gêm oddi cartref allan o bedair i ddod ac fe fydd e lan rhiw o fanno, bydd e’n anodd iawn. Mae’n bwysig ennill eich gemau cartref.”

‘Dim ond cais ynddi’

Tra bod gan Gymru mwy neu lai eu tîm cryfaf ar y cae, mae Lloegr wedi gorfod delio ag anafiadau i lawer o’u prif chwaraewyr.

Mae ail reng y Saeson wedi cael ei daro’n galed, ac mae’r bartneriaeth amhrofiadol yn y canol rhwng Jonathan Joseph a Luther Burrell yn un y bydd Cymru’n gobeithio ei thargedu.

Dim ond pump o dîm Lloegr chwaraeodd yma ddwy flynedd yn ôl, a dyw tri o’u tîm – Joseph, yr asgellwr Anthony Watson a’r clo George Kruis – erioed wedi chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad o’r blaen.

Serch hynny mae gan Loegr ddigon o ddyfnder yn eu carfan, a llawer o’u tîm wedi bod yn creu argraff yng Nghynghrair Aviva y tymor hwn.

Cymru yw’r ffefrynnau – ond mae Sam Warburton yn disgwyl gêm llawer agosach rhwng y ddau dîm nag yn 2013.

“Dyw e byth yn teimlo fel bod mwy nag un cais ynddi naill ffordd neu’r llall, rydym ni wedi bod yn eithaf hafal. Maen nhw wedi ennill a cholli yn Stadiwm y Mileniwm, ac rydyn ni wedi gwneud yr un peth yn Twickenham,” meddai Warburton.

“Maen nhw wastad yn frwydrau agos, a falle mai cais fydd ynddi nos Wener.”

Tîm Cymru: Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar, Rhys Webb; Gethin Jenkins, Richard Hibbard, Samson Lee, Jake Ball, Alun Wyn Jones,  Dan Lydiate, Sam Warburton (capt), Taulupe Faletau.

Eilyddion Cymru:  Scott Baldwin, Paul James, Aaron Jarvis, Luke Charteris, Justin Tipuric, Mike Phillips, Rhys Priestland, Liam Williams.

Tîm Lloegr: Mike Brown, Anthony Watson, Jonathan Joseph, Luther Burrell, Jonny May, George Ford, Ben Youngs; Joe Marler, Dylan Hartley, Dan Cole, David Attwood, George Kruis, James Haskell, Chris Robshaw (capt), Billy Vunipola.

Eilyddion Lloegr: Tom Youngs, Mako Vunipola, Kieran Brookes, Tom Croft, Nick Easter, Richard Wigglesworth, Danny Cipriani, Billy Twelvetrees.