Warren Gatland
Fe allai enillwyr y gêm fawr heno fynd yn eu blaenau i ennill Pencampwriaeth y Chwech Gwlad, yn ôl Warren Gatland.
Mae hyfforddwr Cymru’n dweud bod y gêm mor bwysig ag erioed, gyda phobol yn ei e-bostio’n dweud bod rhaid curo Lloegr doed a ddêl.
Yn ôl y canolwr Jamie Roberts, mae’;r chwaraewyr hefyd yn ymwybodol o’r cyfrifoldeb sydd arnyn nhw o feddwl am y cefnogwyr.
Mae disgwyl gêm agos heno, gyda thîm profiadol Cymru’n wynebu nifer o chwaraewyr newydd yn nhîm cymharol ifanc Lloegr.
Fe fydd pwysau arbennig oherwydd fod y ddwy wlad yn yr un grŵp yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn ddiweddarach eleni, a hynny gydag Awstralia hefyd.