Leigh Halfpenny
Mae cefnwr Cymru Leigh Halfpenny yn dweud y bydd y tîm yn defnyddio’r boen o golli i Loegr llynedd er mwyn sicrhau buddugoliaeth nos fory yn Stadiwm y Mileniwm.

Flwyddyn yn ôl fe gollodd Cymru o 29-18 yn erbyn Lloegr yn Twickenham, a nos Wener fe fydd y ddau yn wynebu ei gilydd unwaith yn rhagor, yng ngêm agoriadol y Chwe Gwlad.

Roedd y boen y llynedd yn un dwbl i Halfpenny, gafodd ei gario o’r maes yn hwyr yn y gêm ar ôl datgymalu ei ysgwydd.

Ac mae’r cefnwr yn benderfynol o wneud yn iawn am hynny yn Stadiwm y Mileniwm fory.

“Roedden ni’n siomedig llynedd i fynd yno a pheidio â pherfformio cystal ag y gallwn ni fod wedi,” meddai Halfpenny.

“Mae’n rhywbeth sydd wedi aros gyda ni ers hynny. Fe fyddwn ni’n defnyddio’r boen yna i’w lawn effaith.”

Annog y dorf

Mae gan Loegr eu bwganod eu hunain ynglŷn â’r gêm hon hefyd, fodd bynnag – y tro diwethaf iddyn nhw ymweld â Chaerdydd ddwy flynedd yn ôl fe gawson nhw grasfa o 30-3.

Mynnodd Halfpenny fod tîm Lloegr yn un digon cryf i roi her galed tu hwnt iddyn nhw, er gwaethaf anafiadau i nifer o brif chwaraewyr yr ymwelwyr.

Ond does dim amheuaeth y bydd y dorf gartref yn hwb fawr unwaith eto, fel yr oedd e yn 2013 pan lwyddodd Cymru i gipio’r bencampwriaeth.

“I mi, y teimlad yna o redeg allan yn Stadiwm y Mileniwm yw’r un gorau allwch chi ei gael,” meddai Halfpenny.