Un o brif bolisïau UKIP yw’r dyhead i gwtogi ar y nifer o fewnfudwyr sy’n dod i Brydain – felly fe welodd nifer o bobl ar Twitter yr ochr eironig mewn neges gan y blaid yn gofyn am bleidlais gan Brydeinwyr sy’n byw dramor – ‘ex-pats’.
Prynhawn ddoe fe drydarodd UKIP neges yn dweud “Ex-pats, gwnewch eich rhan chi ar 7 Mai. Cofrestrwch i bleidleisio ar-lein heddiw!” ac yna linc i wefan gofrestru.
Ynghlwm â’r neges roedd map cartŵn o’r byd gyda chroesau ar wahanol wledydd, a saeth yn pwyntio tuag at flwch pleidleisio ym Mhrydain.
Eironi
Ond wrth gwrs, roedd defnyddwyr Twitter yn ddigon sydyn i sylwi ar yr eironi – bod plaid sydd eisiau cwtogi ar fewnfudo i Brydain yn ddigon hapus i annog Prydeinwyr sydd yn byw dramor i bleidleisio.
Dywedodd @DrShaunMcDaid: “Gadewch i mi gael hyn yn iawn – #UKIP yn galw ar allfudwyr i bleidleisio yn erbyn mewnfudwyr? Allech chi ddim ei wneud e lan!”
Roedd un arall, @lanegreene, yn amau a oedd hyn yn dacteg dda gan y blaid, gan holi: “Rwy’n cymryd fod hyn yn strategaeth wael – faint o ex-pats sydd yn debygol o bleidleisio drostyn nhw?”
Doedd neges UKIP, gafodd ei thrydar ar ddiwrnod cenedlaethol annog pobl i gofrestru i bleidleisio, ddim yn benodol yn gofyn i Brydeinwyr o dramor bleidleisio dros UKIP.
Ond er i’r pleidiau gwleidyddol eraill i gyd anfon negeseuon o’u cyfrifon Twitter swyddogol yn annog pobl i gofrestru i bleidleisio, wnaeth yr un ohonynt apelio ar ‘ex-pats’ i gofrestru.
Dyma’r neges gafodd ei thrydar gan UKIP:
Expats, do your bit on May 7th. Register to vote online today! https://t.co/GwfjZTvSuP pic.twitter.com/7l9xFU40kd
— UKIP (@UKIP) February 5, 2015