Gary Glitter
Mae Gary Glitter wedi ei gael yn euog o gyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn tair merch ifanc.
Yn Llys y Goron Southwark cafwyd y cyn ganwr pop, 70 oed, yn euog o un cyhuddiad o geisio treisio, pedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o gael cyfathrach rywiol gyda merch o dan 13 oed.
Roedd Glitter, fu’n sefyll ei brawf o dan ei enw go iawn, Paul Gadd, yn ymddangos fel petai mewn sioc pan gafodd y dyfarniad ei gyhoeddi.
Cafwyd Glitter yn ddieuog o ddau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o roi cyffuriau er mwyn cael cyfathrach rywiol.
Dywedodd y Barnwr Alistair McCreath ei fod am gadw Glitter yn y ddalfa yn sgil y dyfarniad.
Cefndir
Roedd gyrfa Glitter ar ei hanterth pan ymosododd ar y merched ifanc, gan gredu na fyddai unrhyw un yn eu coelio nhw.
Fe ymosododd ar ddwy ferch, 12 a 13 oed, ar ôl eu gwahodd i’w ystafell yng nghefn y llwyfan.
Roedd hefyd wedi ceisio treisio merch 10 oed yn 1975.
Daeth yr honiadau i’r amlwg ar ôl i Glitter gael ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Yewtree a gafodd ei lansio yn sgil sgandal Jimmy Savile. Glitter oedd y person cyntaf i gael ei arestio fel rhan o’r ymchwiliad.
Cafodd y canwr ei garcharu am bedwar mis yn 1999 ar ôl cyfaddef bod a 4,000 o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.
Yn 2002 cafodd Glitter ei estraddodi o Cambodia ynglŷn â honiadau amhenodol, ac ym mis Mawrth 2006 fe’i cafwyd yn euog o gam-drin dwy ferch, 10 ac 11 oed, yn Fietnam.
Roedd Glitter, o Marylebone yn Llundain, wedi gwadu’r holl gyhuddiadau.
Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 27 Chwefror.