Senedd Gwlad Groeg
Mae Gweinidog Cyllid newydd Gwlad Groeg wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth yr Almaen i geisio dwyn perswâd arnyn nhw i gefnogi cynigion newydd o fewn cynllun i leddfu dyledion ariannol y wlad.
Roedd Yanis Varoufakis a Wolfgang Schaeuble yn cwrdd ym Merlin am y tro cyntaf ers i blaid Syriza, sydd wedi dweud y bydd yn ail-edrych ar ddyledion Gwlad Groeg, gael ei hethol fis diwethaf.
Ond “cytuno i anghytuno” ar y cynllun newydd wnaeth y ddau wleidydd, yn ôl adroddiadau.
Yr Almaen yw cyfrannwr Ewropeaidd mwyaf sydd wedi ymrwymo i fod yn rhan o gynllun pum mlynedd i leddfu dyledion Gwlad Groeg.
Yn y drafodaeth, fe wnaeth Wolfgang Schaeuble ategu cynigion i roi cymorth i Wlad Groeg gryfhau ei system drethi gan ddweud bod rhai camau sydd wedi eu cymryd gan y Llywodraeth newydd yn effeithiol – fel gwneud i bobol gyfoethog dalu mwy o drethi.
Ond fe ychwanegodd y gweinidog cyllid nad oedd angen i’r blaid newid rhai cynigion gan fod “dibynadwyedd yn magu hyder”.