Daeth cadarnhad o'r penodiad gan Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi cyhoeddi mai barnwr Uchel Lys Seland Newydd, Lowell Goddard fydd yn arwain yr ymchwiliad i honiadau o gamdrin plant.

Dywedodd y Swyddfa Gartref ei bod hi’n “uchel ei pharch” yn ei mamwlad.

Daeth Goddard i’r brig o blith 150 o ymgeiswyr.

Bydd y panel presennol yn cael ei ddiddymu, ond bydd modd i’r aelodau wneud cais i ail-ymuno â’r ymchwiliad.

Mae awgrym y gallai honiadau cyn 1970 gael eu hymchwilio, sy’n golygu ymestyn yr ymchwiliad presennol.

Trafferthion

Cadeirydd gwreiddiol yr ymchwiliad oedd y Farwnes Butler-Sloss, ond bu’n rhaid iddi ymddiswyddo yn dilyn amheuon ynghylch ei chysylltiadau dylanwadol o fewn y Llywodraeth, gan gynnwys ei brawd yr Arglwydd Havers, oedd yn Dwrnai Cyffredinol yn y 1980au.

Ymddiswyddodd ei holynydd, y Fonesig Fiona Woolf oherwydd bod ganddi hithau “gysylltiadau â’r sefydliad”, gan gynnwys y cyn-Ysgrifennydd Cartref Leon Brittan.

Nod yr ymchwiliad yw penderfynu a oedd cyrff cyhoeddus wedi anwybyddu neu guddio honiadau o gam-drin plant yn San Steffan yn y 1980au.

Dywedodd y cyn-Weinidog Plant Tim Loughton wrth raglen Today ar BBC Radio 4 fod y sefyllfa’n “llanast” ond fod rhaid i’r ymchwiliad barhau.

“Rhaid i ni ddod i’r casgliad y gallai hyn fod wedi mynd rhagddo lawer iawn gwell, ac fe allai’r ffordd y cafodd ei sefydlu fod wedi bod lawer iawn mwy tryloyw.”