Wilfried Bony
Mae cefnogwr Hull City wedi cael ei wahardd rhag mynd i gemau pêl-droed am dair blynedd am sarhau dau o chwaraewyr Abertawe yn hiliol.

Clywodd Llys Ynadon Hull fod Dean West, 43 oed, wedi anelu sylwadau hiliol at Wilfried Bony a Nathan Dyer wrth i’w dîm golli yn Stadiwm KC ar Ragfyr 20.

Dywedodd rhai o gefnogwyr Hull wrth y stiwardiaid eu bod nhw wedi clywed y sylwadau, ac fe gafodd yr heddlu eu galw.

Cafodd West ei arestio ar amheuaeth o ddefnyddio geiriau hiliol ac o ymddwyn yn hiliol.

Ar ben y gwaharddiad, cafodd West ddirwy o £200 ac roedd rhaid iddo dalu costau o £85.