Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi fod pedwar clwb arall wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais o dderbyn buddsoddiad i sicrhau fod yno gyfleusterau 3G newydd yn cael eu gosod.

Y rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais fel rhan o ddatblygiadau ‘Prosiect 3G Cymdeithas Bêl-droed Cymru’ yw Clwb Pêl-droed Aberystwyth, Caerfyrddin, Derwyddon Cefn a Gap Cei Conna.

Mi fydd y gwaith yn digwydd yn fuan gyda’r gobaith y bydd y cyfleusterau yn barod ar eu cyfer erbyn diwedd y flwyddyn.

Gwella safon y chwarae

Mae’r Gymdeithas wedi ymrwymo i’r prosiect ers 2013, yn dilyn llwyddiant i ddenu grant gan UEFA fel rhan o gynllun buddsoddiad ‘Hat-Trick’. Mae’r buddsoddiad yn rhan o weledigaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru i wella safon y caeau a sicrhau fod y cyfleusterau yn agored i’r gymuned ehangach.

Coleman yn fodlon gyda’r datblygiadau

Mae rheolwr y tîm Cenedlaethol, Chris Coleman yn hapus iawn gyda’r datblygiadau o dan ‘Prosiect 3G’ sydd wedi’i anelu yng Nghymru, gan ganmol cynaliadwyedd a defnyddioldeb y cyfleusterau ar gyfer yr holl gymuned.

Bu’n gwylio rownd derfynol Cwpan Word ym Mharc Latham yn y Drenewydd, ble mae’r clwb eisoes wedi derbyn buddsoddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru mewn cyfleusterau 3G.

“Yn y gorffennol, gallai gemau fod wedi cael eu gohirio oherwydd y tywydd drwg. Ond nawr, gallen ni wylio gêm gyffrous ar arwyneb o safon,” meddai.

“Nid yn unig mae’r cae yn ddigon da i alluogi gemau drwy gydol y tymor, ond mae’n galluogi i’r cae gael ei ddefnyddio yn gyson gan y gymuned gyfan. Roedd yn grêt gweld twrnament Academi yn cael ei chwarae bymtheg munud cyn y gic gyntaf.”

Buddsoddi yn y gymuned

Dywedodd Llywydd y Gymdeithas, Trefor Lloyd-Hughes ei fod yn ffyddiog fydd y buddsoddiad yn rhoi hwb i’r clybiau yn y dyfodol.

“Fydd y cyfleusterau newydd nid yn unig yn gwella safon y chwarae, ond mi fydd yn hwb i weithgareddau yn y gymuned , sbarduno cyd-weithio rhwng y Clwb a’i bartneriaid lleol, yn ogystal yn hwb i ddatblygiadau cynaliadwy’r clybiau sydd mewn golwg.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y datblygiadau a ddaw o’r arian yn Aberystwyth, Caerfyrddin, Derwyddon Cefn ac yng Nghei Conna.”