Syr John Chilcot
Mae arweinydd yr ymchwiliad i ryfel Irac, Syr John Chilcot wedi amddiffyn ei benderfyniad i beidio cyhoeddi ei adroddiad cyn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd fod rhaid peidio rhuthro i roi atebion i’r unigolion a gafodd eu heffeithio fwyaf gan y rhyfel.

Ychwanegodd nad oes “gobaith realistig” o gyflwyno’r adroddiad cyn yr etholiad ar Fai 7.

Roedd yn esbonio’r penderfyniad wrth bwyllgor o aelodau seneddol, gan “gydnabod lefel uchel dros ben o ddiddordeb o du’r Senedd a’r cyhoedd”.

Dywedodd wrth y Pwyllgor Dethol Materion Tramor: “Rydw i a fy mhwyllgor eisiau, ac yn bwriadu, cyflwyno’n adroddiad i’r Prif Weinidog cyn gynted ag y gallwn ni.

“Ond fel rydw i wedi dweud wrth y Prif Weinidog… dydw i ddim yn gweld gobaith realistig o wneud hynny cyn yr etholiad cyffredinol.

“Ein dyletswydd ni yw cyflwyno adroddiad sy’n rhoi’r atebion maen nhw’n eu haeddu i’r Llywodraeth, y Senedd, y cyhoedd ac yn benodol y rhai sydd wedi’u heffeithio’n fawr iawn gan y digwyddiadau yn Irac.”

Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron eisoes wedi mynegi ei rwystredigaeth nad yw’r adroddiad eto wedi’i gyhoeddi, bum mlynedd ar ôl i’r rhyfel ddod i ben.

Ond mynnodd Syr John Chilcot ei bod yn “dasg anferth” i lunio adroddiad ar sail y wybodaeth sydd wedi cael ei chasglu.