Fe fydd ailstrwythuro yn digwydd o fewn y Mudiad Meithrin, gyda rhai swyddi taleithiol yn cael eu colli.
Chwech o bobol sy’n wynebu colli eu swyddi, gyda lleihad yn nifer y staff o 38 i 29. Mae’n debyg fod tri o’r swyddi yn wag eisoes, ac mae proses ymgynghori ynglŷn â’r newidiadau wedi cael ei rhoi ar waith.
Dywedodd llefarydd mai newid yn nifer a natur y cylchoedd meithrin a hefyd yn y gefnogaeth a ddaw o du’r Llywodraeth sydd wedi arwain at yr ail-strwythuro.
Ychwanegodd y llefarydd bod yr hinsawdd economaidd bresennol yn gwneud strwythur presennol y Mudiad yn “anaddas” i ymateb i ofynion y cylchoedd meithrin yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae’r Mudiad yn cyflogi 220 o bobol.
Newid strwythur
“Mae proses ymgynghori llawn a thryloyw ar waith ynglŷn â newid strwythur staff taleithiol Mudiad Meithrin. Wrth ddod a swyddi sy’n cwblhau’r dyletswyddau presennol i ben, bydd pob un o’r swyddi newydd yn cael eu cynnig i’r staff a effeithir,” ychwanegodd llefarydd ar ran y Mudiad.
“Bydd lleihad yn nifer y swyddi, o 38 i 29 swydd. Mae’r swyddi newydd wedi eu neilltuo i’r staff presennol yn unig i ymgeisio amdanynt.
“Canlyniad yr adolygiad yw creu 4 ardal yn lle 3 talaith, cael tîm cefnogi gydag 8 aelod o staff ym mhob ardal gyda swyddogion sy’n arbenigo ar faes (yn hytrach nac arbenigo ar bopeth o fewn ffiniau un ardal neu Gyngor Sir) a chysoni nifer y cylchoedd y mae pob swyddog yn gyfrifol amdanynt fel pwynt cyswllt cyntaf.”
Daw’r broses ailstrwythuro bythefnos ar ôl i’r Mudiad gyhoeddi ‘Dewiniaith’ – ei gweledigaeth ar gyfer y deng mlynedd nesaf.