Gary Glitter
Mae’r rheithgor yn achos y canwr Gary Glitter wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn Llys y Goron Southwark.

Mae Glitter – sy’n sefyll ei brawf o dan ei enw go iawn, Paul Gadd – wedi’i gyhuddo o un achos o geisio treisio ac o ymosod yn anweddus ar ferch o dan 13 oed yn 1975.

Mae e hefyd yn wynebu pedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferch arall dan 13 oed yn 1977.

Mae e hefyd wedi’i gyhuddo o roi alcohol i’r ferch gyda’r bwriad o gael rhyw â hi rhwng Ionawr a Mai 1977, ac o gael rhyw anghyfreithlon â hi.

Mewn perthynas â thrydedd ferch, mae e wedi’i gyhuddo o ddau achos o ymosod yn anweddus arni rhwng 1979 a 1980.

Pe bai’n cael ei ganfod yn euog, fe allai gael ei garcharu am oes.

Rhybuddiodd y barnwr Alistair McCreath na ddylai’r rheithgor gael eu dylanwadu gan y ffaith fod Glitter wedi’i ganfod yn euog o droseddau pornograffi plant yn 1999.

Glitter oedd yr unigolyn cyntaf i gael ei arestio fel rhan o ymchwiliad Yewtree, a gafodd ei sefydlu yn sgil honiadau yn erbyn y diweddar Jimmy Savile.

Mae Glitter yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.