Timau achub yn Taiwan
Mae o leiaf 19 o bobol wedi marw, ac mae 24 o bobol yn dal ar goll wedi i awyren oedd yn cludo 58 o bobol blymio i mewn i afon ar ynys Taipei yn Taiwan.
Roedd mwy na hanner y teithwyr ar awyren TransAsia Airways GE235 yn dod o China, ac roedd yr awyren yn teithio o faes awyr Sungshan i ynysoedd Kinmen.
Cafodd gyrrwr tacsi a theithiwr eu hanafu yn y digwyddiad wrth i’r awyren droi ar ei hochr a tharo pont draffordd eiliadau ar ol esgyn.
Mae timau achub yn chwilio corff yr awyren sydd yn gorwedd yn afon Keelung.
Collodd TransAsia gyswllt radio â’r peilot bedair munud ar ôl i’r awyren adael y maes awyr.
Dywedodd un o’r swyddogion tân sy’n cydlynu’r ymdrechion i achub teithwyr fod y rhai sy’n dal ar goll naill ai yng nghorff yr awyren neu wedi cael eu tynnu gan gerrynt yr afon.
Ychwanegodd nad yw’n optimistaidd y bydd rhagor o bobol yn cael eu darganfod yn fyw.
Dydy’r awdurdodau ddim yn gwybod eto beth achosodd y ddamwain.
Hwn oedd ail awyren y cwmni i fod mewn gwrthdrawiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.