Syr John Chilcot
Mae disgwyl i Syr John Chilcot wynebu cwestiynau gan Aelodau Seneddol heddiw ynglŷn â’r oedi cyn cyhoeddi ei adroddiad i’r rhyfel yn Irac.

Fe fydd cadeirydd yr ymchwiliad yn mynd gerbron y Pwyllgor Materion Tramor i drafod y broses a’r “rhwystrau sy’n parhau.”

Mae’r Prif Weinidog David Cameron ymhlith y rhai sydd wedi mynegi eu rhwystredigaeth nad yw’r adroddiad wedi ei gwblhau, mwy na phum mlynedd ers i’r ymchwiliad ddechrau.

Cafodd gwrandawiad olaf yr ymchwiliad ei gynnal yn 2011 – ond mae Syr John Chilcot wedi cadarnhau na fydd yr adroddiad yn cael ei gwblhau tan ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Bu’r adroddiad yn cael ei drafod gan ASau yn y Senedd wythnos diwethaf – gyda rhai yn mynnu bod rhai manylion penodol yn cael eu cyhoeddi’n syth.

Mewn llythyr at David Cameron fis diwethaf, dywedodd Syr John bod rhai unigolion sy’n cael eu beirniadu yn y ddogfen ddrafft wedi cael y cyfle i ymateb, a’u bod yn dal i geisio cysylltu â nhw.