Teulu'r peilot Muath al-Kaseasbeh yn dangos eu dicter ar ol iddo gael ei ladd gan IS
Mae Gwlad yr Iorddonen wedi lladd dau garcharor al Qaida, ar ôl i eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) gyhoeddi fideo ar y we yn dangos peilot yn cael ei losgi’n fyw.

Roedd marwolaeth Moaz al Kasasbeh, 26 oed, wedi ennyn ymateb ffyrnig gyda phrotestiadau ar strydoedd Gwlad yr Iorddonen yn galw ar y llywodraeth i ddial.

Cafodd fideo IS ei rhyddhau ar ôl i Lywodraeth Gwlad yr Iorddonen ddweud y byddai’n rhyddhau carcharor al Qaida, dynes o Irac, yn gyfnewid am y peilot.

Cafodd y peilot Moaz al Kasasbeh ei gadw’n wystl gan IS ym mis Rhagfyr ar ôl i’w awyren jet fod mewn damwain ger Raqqa, yn Syria. Roedd yn un o’r peilotiaid cyntaf fu’n cymryd rhan yn y cyrchoedd awyr ar safleoedd IS yn Syria ac Irac, i gael ei gadw’n wystl gan yr eithafwyr.

Y carcharor Sajida al-Rishawi oedd un o’r rhai gafodd ei chrogi ar doriad gwawr y bore ma, ynghyd a Zaid al-Karbouly, carcharor arall sydd hefyd a chysylltiadau gydag al Qaida, meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

Cafodd y ddau garcharor eu lladd yng ngharchar Swaqa, tua 50 milltir i’r de o brifddinas Gwlad yr Iorddonen, Amman.

Yn Washington, bu’r Brenin Abdullah II o Wlad yr Iorddonen  yn cynnal cyfarfod brys gyda’r Arlywydd Barack Obama yn y Tŷ Gwyn. Roedd y ddau wedi rhoi addewid na fyddan nhw’n rhoi’r gorau i’r frwydr yn erbyn IS.