Muath al-Kaseasbeh ar ol iddo gael ei gadw'n wystl gan IS
Mae adroddiadau bod y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi lladd peilot o Wlad yr Iorddonen oedd yn cael ei gadw’n wystl gan yr eithafwyr.
Mae IS wedi cyhoeddi fideo ar y we yn dangos Muath al-Kaseasbeh, 26, yn cael ei losgi’n fyw.
Cafodd y peilot ei gadw’n wystl gan yr eithafwyr ym mis Rhagfyr ar ôl i’w awyren jet fod mewn damwain ger Raqqa, yn Syria yn ystod ymgyrch o’r awyr ar safleoedd IS.
Roedd llywodraeth Gwlad yr Iorddonen wedi dweud eu bod yn fodlon rhyddhau carcharor o Irac, Sajida al-Rishawi, yn gyfnewid am y peilot.
Mae Sajida al-Rishawi yn wynebu’r gosb eithaf yng Ngwlad yr Iorddonen am ei rhan mewn ymosodiad ar westy yn 2005 pan gafodd 60 o bobl eu lladd.