Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon
Byddai’r SNP yn ennill bron i hanner o bleidleisiau’r Alban petai’r etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal yfory, yn ôl arolwg barn ddiweddar.
Mae cefnogaeth i’r SNP ar hyn o bryd yn sefyll ar 48%, gyda Llafur yn llusgo y tu ôl ar 27%, meddai arolwg barn YouGov ar gyfer papur newydd The Times.
Mae’r gefnogaeth i’r Ceidwadwyr yn 15%, y Democratiaid Rhyddfrydol yn 4% gyda’r gweddill yn cefnogi pleidiau eraill.
Gallai canlyniad o’r fath yn yr etholiad ym mis Mai weld yr SNP yn ennill hyd at 48 o seddi, gan adael Llafur gyda thua 11, yn ôl y wefan Electoral Calculus.
Dangosodd yr arolwg barn hefyd bod arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban Jim Murphy yn llai poblogaidd o’i gymharu â Phrif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon.
Dywedodd 64% o’r rhai fu’n cymryd rhan yn yr arolwg fod Nicola Sturgeon yn gwneud yn dda fel Prif Weinidog yr Alban, tra mai dim ond 33% oedd yn credu fod Jim Murphy yn perfformio’n dda fel arweinydd newydd Llafur.
Dim ond 14% oedd yn credu fod Nicola Sturgeon yn gwneud yn wael, o’i gymharu â 43% a ddywedodd fod Jim Murphy yn gwneud yn wael.
Er bod yr arolygon barn yn awgrymu y bydd y Blaid Lafur yn yr Alban yn wynebu her enfawr i gadw ei 40 sedd, mae Jim Murphy wedi honni y bydd pobl yn fwy cefnogol i’w blaid yn ystod wythnosau olaf yr ymgyrch etholiadol.
Yn ogystal, mae 53% yn credu y dylai Nicola Sturgeon daro cytundeb â Llafur wedi’r etholiad cyffredinol.
Holwyd 1,001 o bobl rhwng mis 29 Ionawr a 2 Chwefror ar gyfer yr arolwg.