Mae’r llofrudd Arthur Hutchinson wedi colli her gyfreithiol yn Llys Iawnderau Dynol Ewrop yn erbyn ei ddedfryd o garchar am oes gyfan.
Cafodd Arthur Hutchinson ei garcharu yn 1984 am drywanu cwpl cyfoethog, Basil ac Avril Laitner i farwolaeth ar ôl torri i mewn i’w cartref yn Sheffield ar noson priodas eu merch, cyn iddo ladd un o’u meibion.
Dywedodd y barnwr yn ei ddyfarniad gwreiddiol yn Llys y Goron Sheffield yn 1984 y dylai Arthur Hutchinson dreulio 18 mlynedd dan glo – ond cafodd y ddedfryd honno ei gwyrdroi’n ddiweddarach gan yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Leon Brittan, a ddywedodd y dylai wynebu carchar am oes heb obaith am barôl.
Arthur Hutchinson oedd y Prydeiniwr cyntaf i herio’i ddedfryd ar ôl dyfarniad dadleuol gan Lys Iawnderau Dynol Ewrop yn 2013 oedd yn dweud bod dedfryd o garchar am oes gyfan yn mynd yn groes i hawliau dynol.
Ond dyfarnodd y barnwyr heddiw nad oedd dedfryd Arthur Hutchinson yn torri cyfreithiau hawliau dynol oherwydd bod Ysgrifennydd Gwladol y DU gyda’r pŵer i adolygu dedfrydau o garchar am oes gyfan.
Daeth y mwyafrif o’r barnwyr i’r casgliad hefyd eu bod yn ystyried y sefyllfa gyfreithiol yn y DU i fod yn unol â chyfreithiau hawliau dynol Ewrop.