Cyngor Sir Benfro
Fe fydd pwyllgor o gynghorwyr Sir Benfro yn cwrdd heddiw i drafod faint o gyflog fydd Prif Weithredwr newydd y Cyngor yn ei gael.
Roedd y cyn Brif Weithredwr, Bryn Parry Jones, yn derbyn cyflog o £195,000 y flwyddyn – y cyflog uchaf i unrhyw brif weithredwr cyngor yng Nghymru.
Fe adawodd ei swydd gyda phecyn cyflog o bron i £280,000 fis Hydref diwetha’, wedi i ymchwiliad ganfod ei fod wedi derbyn arian di-dreth yn lle cyfraniadau pensiwn.
Faint?
Mae panel annibynnol wedi awgrymu y dylai’r prif weithredwr nesaf dderbyn cyflog o £130,000 a Chyngor Sir Benfro wedi awgrymu talu £145,000 y flwyddyn i’r arweinydd nesaf.
Yn dilyn y cyfarfod prynhawn ma, bydd argymhelliad y pwyllgor yn cael ei basio ymlaen i’r cyngor yn ddiweddarach er mwyn i gynghorwyr bleidleisio dros dderbyn neu wrthod y cynnig ym mis Mawrth.
Fe fydd y broses o recriwtio prif weithredwr newydd yn dechrau ym mis Ebrill, ac mae disgwyl penodiad ym mis Mehefin.