Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew ar gyfer rhannau gorllewinol o Gymru, wedi i law achosi i eira rewi dros nos.
Dywedodd Prif Aseswr y Swyddfa Dywydd bod disgwyl mwy o gawodydd gaeafol y prynhawn yma ac y bydd ardaloedd mewndirol yn parhau i weld eira’n disgyn.
Ond yn ddiweddarach, meddai, fe fydd y tywydd oer yn symud i’r gogledd-ddwyrain gan adael awyr glir gyda pherygl y bydd y ddaear yn rhewi.
Roedd degau o ysgolion ar gau oherwydd yr eira ddoe, yn benodol yng Ngwynedd a Cheredigion, ond maen nhw bellach wedi ail-agor.
Fe ddylai’r cyhoedd fod yn wyliadwrus o’r amgylchiadau teithio peryglus ar y ffyrdd, meddai’r Swyddfa Dywydd.