Mae’n debygol y bydd un o’r newyddiadurwyr Al-Jazeera sydd wedi’u carcharu yn yr Aifft, Mohamed Fahmy, yn cael ei ryddhau “yn fuan” yn ôl gweinidog tramor Canada, John Baird.
Mae Mohamed Fahmy yn ddinesydd yng Nghanada a’r Aifft, ond fe gafodd ddewis i roi’r gorau i’w ddinasyddiaeth yn yr Aifft er mwyn cael ei ryddhau, meddai ei deulu.
“Roedd yn benderfyniad anodd. Mae Mohamed yn falch iawn o’i gefndir ac yn dod o deulu cenedlaetholgar iawn ond roedd yn ddewis o roi’r gorau i’w ddinasyddiaeth neu ei ryddid,” meddai ei frawd, Adel Fahmy.
Nid oes dyddiad pendant wedi cael ei osod ar gyfer rhyddhau Mohammed Fahmy ac mae ei lefarydd wedi gwrthod gwneud sylw pellach.
Daw wedi i’r newyddiadurwr Peter Greste o Awstralia gael ei ryddhau dros y penwythnos ar ôl treulio dros flwyddyn dan glo.
Cefndir
Cafodd Peter Greste, Mohammed Fahmy a Baher Mohammed eu harestio ym mis Rhagfyr 2013 ar ôl cael eu cyhuddo o ohebu ar y protestio treisgar yn yr Aifft ac o gydweithio â’r Frawdoliaeth Fwslimaidd i geisio cipio grym oddi ar yr Arlywydd Mohammed Morsi.