Nikki Sinclaire
Mae un o gyn-aelodau UKIP wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus a hawlio costau teithio yn anghyfreithlon.
Mae Nikki Sinclaire, 46, fu’n Aelod Seneddol Ewropeaidd dros y West Midlands, yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei herbyn.
Cafodd ei harestio am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2012 a’i chyhuddo ym mis Gorffennaf 2014 yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu.
Yn Llys y Goron Birmingham, roedd yr erlynydd yn honni iddi ddweud celwydd am ei chostau teithio a’i bod wedi trosglwyddo arian i’w chyfrif banc tra yn ei swydd fel ASE.
Mae’r cyhuddiadau yn ei herbyn yn dyddio nôl i fis Hydref 2009 a mis Gorffennaf 2010, cyn iddi adael UKIP ar ddiwedd 2010 ar ôl colli ei sedd yn yr etholiadau Ewropeaidd.
Mae disgwyl iddi ymddangos yn y llys eto ar 19 Hydref.