Car y Parchedig Wena Parry
Mae gweinidog a gafodd wybod ei bod hi mewn perygl o annilysu ei pholisi yswiriant car oherwydd bod ganddi sticeri ar gorff ei char wedi derbyn £725 mewn setliad gan Age UK.

Mae’r cwmni hefyd wedi cytuno i ddileu £100 o dâl-dros-ben.

Aeth y Parchedig Wena Parry at Age UK ar ôl i ladron dorri i mewn i’w char bedwar mis yn ôl a difrodi un o’r cydrannau.

Dywedodd y Parchedig Parry wrth Golwg360 fod ecsôst y car wedi dod i ffwrdd a bod niwed i’r injan.

“Doedd dim sỳmp ar y car. Mi wnes i ffonio’r AA  i ddod allan ac yna’r cwmni yswiriant, ond doedden nhw heb ofyn am unrhyw eiriau ar y car.”

Cafodd Age UK wybod fod y sticeri “Christ Must Be Saviour” a “Christ for Me” ar y car ar ôl gofyn am ffotograffau o’r niwed i’r car yn dilyn y lladrad.

“Nid ‘adaption’ ydi cael testun ar y car. Dwi’n credu eu bod nhw’n trio osgoi talu allan.

“Mae’n mynd ar draws ryddid unigolyn o gyhoeddi’r Efengyl. Mae’r sticeri wedi bod ar y car ers chwe blynedd, ac mae miliynau o bobol wedi’u gweld nhw.

“Mae’r cwmni’n gwrthwynebu ac yn erlid Cristnogaeth. Dwi’n mynnu cyhoeddi’r Efengyl ym mhob ffordd.”

Ymateb Age UK

Mae Age UK yn gwadu eu bod nhw wedi ymddwyn yn “anghrefyddol”.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: “Rydym yn flin iawn nad oedd y Parchedig Parry yn hapus gyda chanlyniad gwreiddiol ei hawliad ac ynghylch ansawdd yr ohebiaeth a gafodd hi.

“Mae Ageas bellach wedi adolygu’r hawliad ac wedi cynnig setliad o £725 ac wedi dileu’r tâl dros ben o £100 a’r taliad debyd uniongyrchol oedd yn daladwy, a hynny fel arwydd o ewyllys da.

“Tra bod gan bob perchennog car yr hawl i fynegi ei hun a gosod beth bynnag a fynno ar gar, rydym yn annog pob gyrrwr i sicrhau bod eu darparwr yswiriant yn ymwybodol o unrhyw graffeg sy’n cael ei roi ar geir.

“Yna gall asesiad a thrafodaeth deg ddigwydd rhwng perchennog y car a’r cwmni yswiriant ynghylch yr effaith y gallai addasiad ei gael ar yswiriant deilydd y polisi.”

Addasiadau

Tra bod y cwmni’n derbyn nad yw eu canllawiau’n egluro pa addasiadau sy’n dderbyniol, maen nhw’n gwadu eu bod nhw’n wrth-Gristnogol.

“Doedd a wnelo’r sefyllfa mewn perthynas â hawliad y Parchedig Parry ddim o gwbl â natur Gristnogol ei graffeg.

“Wrth adolygu ei hachos, mae’r yswirydd wedi gwirio’r hyn ddigwyddodd wrth werthu’r polisi hwn.

“Fe ddaethon nhw i’r casgliad nad oedd ein cais i ddatgan yr holl addasiadau yn ddigon eglur i’r Parchedig Parry ac felly, doedd hi ddim yn gwybod pa addasiadau i’w char y dylid fod wedi’u datgan.”

Ychwanegodd y cwmni y bydden nhw’n adolygu eu dulliau o gasglu gwybodaeth yn ystod y broses o werthu polisïau.