Profi samplau gwaed am Ebola
Mae ail weithiwr iechyd wedi’i gludo nôl i’r DU oherwydd y posibilrwydd ei fod wedi’i heintio gydag Ebola, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr.
Mae’n debyg fod y gweithiwr wedi cael damwain gyda nodwydd tra’n trin claf yn Sierra Leone. Mae’n cael ei asesu yn Ysbyty’r Royal Free yn Llundain.
Daw hyn ddeuddydd ar ol i weithiwr iechyd arall gael ei chludo yn ol i’r DU er mwyn ei monitro ar ol iddi gael ei phigo gyda nodwydd tra’n trin claf oedd wedi’i heintio yng ngorllewin Affrica.
Nid yw hi’n dangos symptomau o Ebola ar hyn o bryd ac mae’n cael gofal mewn uned ar wahân yn Ysbyty’r Royal Free yn Llundain.
Mae tua 600 o weithwyr milwrol o Brydain yn gweithio yn Sierra Leone ar hyn o bryd.