Mae sefydliadau iechyd ledled Prydain wedi datgan cefnogaeth i ymgyrch sy’n galw ar weithwyr iechyd i gyflwyno eu hunain i gleifion.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio gan y meddyg teulu Dr Kate Granger fu’n derbyn triniaeth am ganser yn yr ysbyty, wedi iddi sylweddoli nad oedd hi’n gwybod enwau’r gweithwyr iechyd fu’n ei thrin.

Erbyn hyn, mae tua 400,000 o feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd mewn 90 o sefydliadau yn cefnogi’r ymgyrch “Helo, fy enw i yw…”

“Roedd yn teimlo’n od nad oedd staff yn cyflwyno eu hunain, felly gyda chefnogaeth fy ngŵr, fe benderfynom ni ddechrau’r ymgyrch er mwyn atgoffa staff am y pwysigrwydd o ddweud eu henwau cyn darparu triniaeth,” meddai Dr Kate Granger, sy’n dioddef o ganser nad oes modd ei drin.

“Rwy’n credu’n gryf y gall gwybod enw rhywun arwain at gysylltiad dynol gwell ac at gychwyn perthynas therapiwtig ac ymddiried yn rhywun.

“Yn fy meddwl i, dyma’r cam cyntaf at ddarparu gofal trugarog ac rwy’n gobeithio y byddaf yn cael fy nghofio am annog gweithwyr i roi gofal fel hyn wrth galon eu gwaith.”