Shrien Dewani gyda'i wraig Anni
Fe allai’r gŵr busnes Shrien Dewani orfod rhoi tystiolaeth am y tro cyntaf ar ôl iddo ddod i’r amlwg bod crwner yn y DU yn ceisio pennu dyddiad ar gyfer cwest i lofruddiaeth ei wraig Anni Dewani.

Mewn llys yn Ne Affrica y llynedd, cafwyd Shrien Dewani o Fryste, yn ddieuog o gynllwynio i lofruddio ei wraig yn ystod eu mis mel yn Cape Town.

Cafodd ddychwelyd i’r DU ar ôl i’r barnwr yn yr achos Jeanette Traverso, ollwng yr achos yn ei erbyn gan ddweud bod tystiolaeth yr erlyniad yn llawn “anghysonderau”.

Nid yw Shrien Dewani erioed wedi siarad yn gyhoeddus am farwolaeth ei wraig ond fe allai hynny newid os yw cwest yn cael ei gynnal.

Dywedodd llefarydd ar ran Llys y Crwner yng ngogledd Llundain bod y crwner “yn gweithio tuag at bennu dyddiad ar gyfer yr achos yma.”