Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn rhybuddio’r bore ma y bydd cynlluniau’r Ceidwadwyr i gwtogi ar wariant addysg yn Lloegr yn cael “effaith ddifrifol” ar Gymru.
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’r ffordd y mae Cymru’n cael ei chyllido o dan Fformiwla Barnett yn golygu y bydd toriadau i gyllid ysgolion, colegau ac ysgolion meithrin yn Lloegr yn arwain at lai o arian i Lywodraeth Cymru.
Mae’r blaid yn honni bod Llafur hefyd wedi gwrthod gwarchod cyllidebau addysg.
Ond mae’r Ceidwadwyr wedi mynnu bod honiadau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ddi-sail a’u bod am amddiffyn y cyllid sydd ar gael i ysgolion yn Lloegr ar ôl yr etholiad cyffredinol.
Amddiffyn gwariant
Dywedodd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Jenny Willott, AS Canol Caerdydd: “Y Democratiaid Rhyddfrydol yw’r unig blaid sy’n dweud ein bod am amddiffyn gwariant ar gyfer y cyfnod meithrin i’r coleg am ein bod yn credu mai’r ffordd i adeiladu economi cryf a sicrhau cymdeithas fwy teg yw drwy roi’r cychwyn gorau posib i bob plentyn.
“Mae’r Torïaid eisiau rhedeg ysgolion am elw ac agor ysgolion ramadeg: dyna yw eu blaenoriaeth.
“Ac rydym yn gwybod y byddai David Cameron, heb orfodaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi torri gwariant ar addysg.”
Daw’r rhybudd cyn araith gan y Prif Weinidog David Cameron yn ddiweddarach yr wythnos hon lle bydd yn datgelu cynlluniau’r Ceidwadwyr ar gyfer Lloegr yn ei faniffesto.
‘Panig’
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr yng Nghymru bod y Democratiaid Rhyddfrydol “mewn panig” ar ôl i arolygon barn dros y penwythnos ddangos bod y gefnogaeth i’r blaid wedi gostwng.
“Efallai nad yw Jenny Willott yn sylweddoli, ond mae addysg yn faes sydd wedi ei ddatganoli yng Nghymru.
“Mae Ceidwadwyr Cymru am weld y system yng Nghymru yn canolbwyntio ar ragoriaeth, ac rydym am leihau biwrocratiaeth gan sicrhau fod mwy o arian ar gyfer y rheng flaen, gydag athrawon a rhieni yn penderfynu beth sydd orau ar gyfer disgyblion.”
Mwy o ffraeo
Yn y cyfamser, mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Huw Lewis, wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o chwarae gêm wleidyddol gyda pholisi addysg Cymru.
Roedd yn ymateb i feirniadaeth gan Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, a ddywedodd y byddai gan rieni yn Lloegr le i bryderu petai arweinydd Llafur, Ed Miliband yn dilyn dulliau addysgu Llywodraeth Cymru.
Fe gafodd sylwadau Stephen Crabb eu cyhoeddi ym mhapur newydd y Sunday Times, yn dilyn ffrae debyg ynglŷn â record Gwasanaeth Iechyd Cymru.
Ond fe ddywedodd Huw Lewis mai ymosod ar Gymru er mwyn ceisio ennill pleidleisiau yn yr etholiad cyffredinol oedd y Ceidwadwyr.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb llawn gan y blaid Lafur.