Mae strategydd etholiadol y Blaid Lafur, Douglas Alexander wedi gwrthod diystyru’r posibilrwydd o sefydlu clymblaid â’r SNP yn dilyn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Dywedodd y llefarydd materion tramor wrth raglen Andrew Marr y BBC fod ei blaid am frwydro am fwyafrif.
“Mae’r polau’n anodd,” meddai, “ond y ffaith yw fod etholaeth arwyddocaol iawn yn dilyn y refferendwm sydd am weld newid. Rwy’n rhannu’r dyhead hwnnw am newid.
“Yn yr etholiad sydd i ddod ym mis Mai, nid y ffordd o sichrau’r newid hwnnw yw rhwygo’r bleidlais ar y chwith i’r canol, ond trwy sicrhau’r nifer fwyaf o ASau Llafur a sicrhau felly fod gyda ni lywodraeth flaengar, ac nid llywodraeth o dan arweiniad David Cameron na llywodraeth David Cameron a Nigel Farage.”
Wfftiodd Alexander yr awgrym y gallai’r Blaid Lafur ddod i gytundeb i symud Trident allan o’r Alban.
“Mae ein safbwynt o ran Trident yn glir iawn a dydw i ddim am ei newid.”
Ychwanegodd ei fod yn hyderus y gall Ed Miliband arwain y blaid i fuddugoliaeth yn yr etholiad cyffredinol, er gwaetha’r feirniadaeth o’i arweinyddiaeth.
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Iechyd, Alan Milburn y gallai rhoi rhagor o arian i’r Gwasanaeth Iechyd heb gyflwyno diwygiadau hanfodol fod yn “gamgymeriad angheuol” i’r blaid.
Ac fe fu beirniadaeth hefyd o’r cynlluniau i gyflwyno “treth plasty”.