Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill, wedi i ddynes gael ei thrywanu yng ngorllewin Llundain.
Fe ddaethpwyd o hyd i’r wraig, 42 oed mewn adeilad yn Hillingdon, gorllewin Llundain, ddoe. Fe gafodd swyddogion Scotland Yard eu galw tua 11yb.
Mae dyn 35 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth toc wedyn. Fe gafodd ei arestio yn Hayes, ac mae’n parhau yn y ddalfa mewn swyddfa heddlu yng ngorllewin Llundain.
Mae teulu’r ddynes wedi cael gwybod, ac mae’r awdurdodau ar hyn o bryd eto’ i gyhoeddi pryd fydd prawf post mortem yn cael ei gynnal.