Bu farw Richard von Weizsaecker, cyn arlywydd Yr Almaen sy’n cael y clod am wneud i’w wlad ei hun wynebu holl erchyllterau cyfnod Natsïaeth a cheisio symud tuag at gymod ac ymwrthod â thrais. Roedd yn 94 oed.
Yn ystod ei ddeng mlynedd wrth y llyw rhwn 1984 ac 1994, fe wnaeth lawer hefyd i newid delwedd “seremonïol” swydd yr arlywydd, ac fe ddaeth i gael ei gydnabod fel “cydwybod” y genedl Almaenig.
Ym mis Mai 1985, fe draddododd araith i nodi hanner canrif er i’r Almaen golli’r Ail Ryfel Byd, a dyna oedd y digwyddiad a wnaeth gymaint o argraff ar drigolion y wlad. Fe gafodd ei ganmol am ei ddewrder yn galw ar ei gyd-Almaenwyr i ddod i delerau gyda’r Holocost.
Roedd Richard von Weizsaecker ei hun wedi bod yn soldiwr cyffredin yn y fyddin yng nghyfnod Adolf Hitler.
“Mae gan bob un ohonon ni, p’un ai ydan ni’n euog neu beidio, yn hen ac ifanc, gyfrifoldeb tros dderbyn y gorffennol,” meddai. “Mae’r gorffennol hwnnw’n effeithio arnom ni i gyd, ac rydan ni’n gyfrifol amdano fo.
“Mae unrhyw un sy’n cau’i lygad i’r gorffennol, yn ddall i’r dyfodol hefyd.”