Mae neges wedi’i hanfon allan gan Heddlu De Cymru yn dweud nad oes achos i’w ddilyn wedi adroddiadau am fechgyn yn cael eu “gorfodi i mewn i gerbyd lliw arian” yn Nhreforys ddoe.
Yn ôl datganiad gan y llu ganol bore heddiw, mae’r bechgyn wedi’u canfod yn ddiogel, a does dim lle i boeni yn eu cylch.
Roedd dwy fenyw wedi riportio gweld tri dyn mewn cerbyd lliw arian yn cael “ffrae” gyda’r bechgyn, cyn i’r bechgyn mewn gwisg ysgol gael eu “gorfodi” i mewn i’r cerbyd ar Ffordd Parry, Treforys toc cyn 4 o’r gloch ddoe.
Mae Heddlu De Cymru yn diolch i bawb a fu’n gymorth i ddatrys y mater.