Mae miloedd o Fwslemiaid Shiite wedi bod yn protestio ledled Pacistan, wedi i fom ffrwydro mewn mosg ddoe, gan ladd 59 o bobol.

Yn Shirkarpur, lle digwyddodd yr ymosodiad, mae galarwyr wedi cynnal cynhebrwng ar y cyd ar gyfer y meirwon.

Mewn gwahanol ddinasoedd yn y wlad, mae mudiadau sy’n gwarchod buddiannau Shiite wedi bod yn cynnal gwrthdystiadau. Fe fu rhai’n llosgi pentyrrau o deiars, eraill yn rhwystro ffyrdd, yn ogystal â galw am fwy o gamau i ddiogelu mannau crefyddol.

Fe ddigwyddodd y ffrwydriad rhyw 310 milltir i’r gogledd o dref borthladd Karachi – ardal sydd wedi profi heddwch cymharol yn ystod y cyfnod diweddar. Ond y pryder nawr ydi y bydd yr ardal hon, hefyd, yn dod yn darged mwy o ymosodiadau terfysgol.

Fe ffrwydrodd y ddyfais ddoe tra’r oedd 250 o bobol wedi dod ynghyd yn y mosg ar gyfer gweddïau dydd Gwener. Cafodd dwsinau eu hanafu.