Yn ne Lloegr, mae dynes oedrannus wedi marw yn dilyn tân ben bore.

Fe gafodd criwiau achub eu galw i’r ty yn Andover, Hampshire am 6.15yb heddiw, i ymladd fflamau oedd wedi cynnau yn un o’r llofftydd.

Bu farw’r wraig yn y tân, ac mae ymchwiliad bellach ar y gweill ar y cyd â Heddlu Hampshire i geisio penderfynu sut ddechreuodd y tân.

Mae swyddogion tân yn annog pobol i ofalu bod ganddyn nhw larwm tân, a bod y larwm yn gweithio.