Fe fydd y goeden a achubwyd gan y gymuned leol yn Llanfyllin yn chwifio’r faner i Gymru yng nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn.
Mae’r Goeden Unig, sef pinwydden yr Alban sydd wedi sefyll am flynyddoedd ar y gorwel uwchben Llanfyllin ym Mhowys yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn yn ystod mis Chwefror. Mae’r goeden wedi gwylio dros y dref am dros 200 o flynyddoedd.
Fe fyddai pobl leol yn ymweld â hi i naddu eu henwau, i gynnig priodas neu i wasgaru llwch. Ym mis Chwefror 2014 fe gafodd ei chwythu i lawr mewn gwyntoedd cryfion. Ond ddaeth pobl leol at ei gilydd i dipio dros 30 tunnell o bridd dros y gwreiddiau.
Y nod yw sicrhau y gall unrhyw wreiddiau sy’n dal yn fyw weithio, gan ei chaniatáu i oroesi a ffynnu, megis phoenix, ond yn lledorwedd yn hytrach na sefyll.
Pleidlais
Dewiswyd y Goeden Unig fel y Coeden Gymreig y Flwyddyn mewn pleidlais gyhoeddus a drefnwyd gan Coed Cadw (Woodand Trust), gan guro cystadleuaeth gref o saith coeden arall ac ennill 25% o’r holl bleidleisiau a fwriwyd ar y Rhyngrwyd ac mewn sioeau a digwyddiadau ar draws y wlad.
Mae hi bellach yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn, yn cystadlu yn erbyn 13 o goed eraill o bob cwr o Ewrop.
Mae’r pleidleisio yn digwydd ar-lein trwy gydol mis Chwefror wrth www.treeoftheyear.org.