(Llun PA)
Mae cyflogau yng ngwledydd Prydain yn dal i fod yn is nag yr oedden nhw yn 2008 cyn yr argyfwng economaidd, yn ôl adroddiad newydd heddiw.
Dangosodd adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Ariannol (IFS) fod cyflogau cyfartalog yr awr yn dal i fod 4.7% yn is o ran gwerth go iawn nag yr oedden nhw chwe blynedd yn ôl, er bod yr economi wedi gwella.
Ac mae’n ymddangos bod y trafferthion economaidd wedi taro dynion a phobol ifanc yn waeth, gan mai nhw sydd wedi gweld y gostyngiad mwya’ yn eu cyflogau.
Effaith y sector cyhoeddus
Yn ôl yr adroddiad roedd cyflogau dynion 7.3% yn is nag yr oedden nhw yn 2008, o’i gymharu â chwymp o ddim ond 2.5% yng nghyflogau merched.
Fe awgrymodd yr IFS y gallai hyn fod oherwydd fod merched yn fwy tebygol na dynion o weithio yn y sector cyhoeddus, ble mae cyflogau wedi cynnal yn well.
Dangosodd y ffigyrau hefyd bod cyflogau pobol ifanc rhwng 22 a 29 oed bellach 9% yn is nag yr oedden nhw cyn yr argyfwng economaidd.
Ond roedd gwell newyddion am gyflogau’r rheiny sydd dros 60 oed, gan eu bod nhw bellach wedi cyrraedd yn ôl i’r hyn oedden nhw cyn yr argyfwng.