Barry Gardiner, AS Llafur Gogledd Brent, un o'r seddi lle mae mwyafrif o fewnfudwyr (Llun o'i wefan)
Fe allai pleidlais mewnfudwyr gael effaith “sylweddol” ar ganlyniad yr etholiad cyffredinol ym mis Mai, yn ôl astudiaeth newydd.

Fe fydd pleidleisiau gan hyd at bedair miliwn o bobol a gafodd eu geni y tu allan i wledydd Prydain, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Manceinion a’r Rhwydwaith Hawliau Mewnfudwyr.

Fe allai eu pleidlais nhw fod yn allweddol mewn rhai o’r etholaethau mwya’ ymylol ac fe rybuddiodd yr adroddiad y dylai gwleidyddion feddwl mwy am bleidlais y mewnfudwyr hyn.

Mwyafrif mewn dwy etholaeth

Un o ganfyddiadau’r adroddiad yw mai dyma’r etholiad cyffredinol cynta’ lle byddai’r mwyafrif o bobl mewn dwy etholaeth – East Ham a Gogledd Brent – wedi cael eu geni dramor.

Mae tua 25 o seddi eraill lle mae mwy na thraean o’r boblogaeth wedi eu geni dramor, a 50 lle mae o leia’ chwarter yn fewnfydwyr.

Mae’r rhan fwyaf o fewnfudwyr sydd yn gymwys i bleidleisio yn dod o wledydd fel Iwerddon, India, Pakistan, Bangladesh, Nigeria a De Affrica.

“Fe allai pobl sydd wedi eu geni dramor ond yn byw yn y Deyrnas Unedig gael effaith uniongyrchol ar yr etholiad cyffredinol ym mis Mai,” meddai’r adroddiad.

“Fe fydd mewnfudwyr nid yn unig yn gyfran sylweddol o’r etholaeth ar 7 Mai, ond fe allan nhw bleidleisio yn eu niferoedd mewn rhai etholaethau agos iawn.”

Rhybudd i wleidyddion

Rhybudd yr adroddiad oedd y gallai pleidiau gwleidyddol dalu’r pris os ydyn nhw’n anwybyddu pleidlais y mewnfudwyr ac yn canolbwyntio ar bobol sy’n poeni am fewnfudo.

Fe allai arwain at genhedlaeth newydd o fewnfudwyr oedd yn cael yr argraff nad oedd y pleidiau hyn yn eu cynrychioli nhw, yn ôl yr adroddiad.

“Mae gwleidyddion sydd wedi bod yn rhoi llawer o sylw i bryderon etholwyr sydd yn poeni am fewnfudo wedi bod yn llai sensitif tuag at bryderon y mewnfudwyr,” meddai.

“Eu hawliau a’u diogelwch nhw sy’n cael ei fygwth gan newidiadau sydd yn debyg o gyfyngu ar eu hawl i symud, eu gallu i fod gyda’u teuluoedd a chael gafael ar fudd-daliadau.

“Y risg i wleidyddion yw y gallai canolbwyntio ar bryderon yr etholwyr gafodd eu geni ym Mhrydain sydd â barn negyddol iawn am fewnfudo estroneiddio’r mewnfudwyr hynny.”